Neuadd Gyhoeddus

Cyrsiau Cymraeg

Gwelwyd yn y blynyddoedd diwethaf sefydliad o Ddosbarth Nos Cymraeg lwyddiannus a gynhelir yn Neuadd y Pentref, Trawsfynydd, ac a ddarperir gan Coleg Meirion-Dwyfor. Cynhelir y dosbarthiadau bob Nos Lun o 7.00 p.m. tan 9.00 p.m. a gwelir uchod lun o Ddosbarth 2000. Mae’r gwasanaeth yn chwarae rhan hanfodol mewn helpu siaradwyr di-Gymraeg i integreiddio yn gymdeithasol o fewn y gymuned.

Os oes gennych ddiddordeb mewn cofrestru ar y cwrs neu os oes gennych ddiddordeb mewn unrhyw gwrs arall, cysylltwch a Gweithgareddau Allanol, Coleg Meirion-Dwyfor, Ffordd Ty’n y Coed, Dolgellau, ar (01341) 422 245 neu ymholiad@meirion-dwyfor.ac.uk

Neuadd

Mae arwynebedd o tua 200 medr sgwar i lawr y neuadd, gyda lle i 335 o seddau. Mae'r llwyfan yn gymharol fawr sydd yn hwylus i gynnal dramau neu gyngherddau. Ceir llifoleuadau i'r llwyfan gyda system sain sy'n cynnwys microffonau gyda chysylltiad seinydd i'r seler. Hefyd mae gan y neuadd daflunydd aml-gyfrwng gyda sgrin a pheiriant fideo. Ceir gegin gyda gorddrws serfio cyfleus i'r neuadd.

 

Seler

Arwynebedd llawr y seler yw tua 50 medr sgwar, gyda lle i tua 25 - 30 eistedd. Ceir yno 12 o fyrddau crwn, a chefin gyda'r un cyflusterau ac un y neuadd gydag oergell yn ychwanegol.

 

Prisiau Llogi

 Neuadd - £25.00 (lleol)   £40.00 (allanol)                           

 Seler - £7.00 (lleol)   £15.00 (allanol)

Neuadd a Seler - £30.00 (lleol)   £50.00 (allanol)

 

Map Lleoliad

Neuadd Gyhoeddus Trawsfynydd

Stryd y Capel

Trawsfynydd

Gwynedd LL41 4RW

Rhif ffon - 01766 770 324

English | Cymraeg
 
 




















Free Counter