Côrau

CÔR MEIBION PRYSOR

Sefydlwyd Côr Meibion Prysor yng nghanol y chwedegau ac mae mwyafrif o’r aelodau yn hannu o bentref Trawsfynydd a’r cyffiniau. Yn eu hamrywiaeth o ganeuon, sy’n cynnwys emynau, caneuon gwladgarol, cerdd dant, alawon gwerin, caneuon ysgafn eu naws ynghyd â chaneuon a anfarwolwyd gan gorau eraill o Gymru a’r byd, maent yn ymfalchïo’n y ffaith eu bod yn cael cyfle i fod o wasanaeth i ardaloedd yng Nghymru a thu hwnt.

Swyddogion y Côr
  • Arweinydd : Iwan Morgan
  • Cyfeilyddes : Iona Griffiths
  • Cadeirydd : John Heddwyn Jones
  • Trysorydd : Gwyndaf Lewis
  • Ysgrifennydd : Derfel Roberts, 6 Stryd Ty Llwyd, Stesion, Trawsfynydd.

 

CÔR LLEFARU BRÔ HEDD WYN

Sefydlwyd Côr Llefaru Bro Hedd Wyn at Eisteddfod Genedlaethol y Bala ym 1997.  Maen't wedi cystadlu a chymeryd rhan mewn cyngherddau ers hynny. Wedi bod yn llwyddiannus o gael yr ail wobr yn yr Eisteddfod Genedlaethol dair gwaith yn olynol. Mae'r aelodau i gyd yn dod o bentref Trawsfynydd a'r cyffiniau.  Maen't yn cael pleser o ddiddanu a chyflwyno barddoniaeth mewn dull diddorol yn ystod Tymor y Gaeaf mewn pentrefi cyfagos.

Swyddogion y Côr

Hyfforddwr/Trysorydd :  Greta Ellis 

Ysgrifennyddes : Bethan Hughes, Bron Gwynedd, Trawsfynydd.

                                                                                                        

 

 

 

 

English | Cymraeg
 
 




















Free Counter