Llety
HOSTEL LLYS EDNOWAIN

Mae hostel Llys Ednowain yn agored drwy’r flyddyn ac yn darparu hwylusdod am bris rhesymol, £19 y noson. Mae 4 ystafell (en-suite) gyda gwres canolog a lle i 20 gysgu mewn gwlau bwnc. Mae dillad gwlau glân a thoweli yn cael eu darparu ar eich cyfer yn rhad ac am ddim. Mae croeso i chi ddefnyddio y peiriant golchi a’r sychwr, neu gwnewch bryd o fwyd yn y gegin a mwynhewch y golygfeydd bendigedig sydd o’ch cwmpas neu gwyliwch y teledu. Mae cyfrifiadur wedi ei osod yn y gegin/lolfa os ydych angen anfon e-bost neu bori’r rhyngrwyd. Bydd eich beic yn ddiogel yn y storfa bwrpasol. Mae digon o fwynderau lleol o fewn cyrraedd hawdd i’r Llety yn cynnwys 2 dy tafarn, caffi, swyddfa bost gyda siop drwyddedig, siop bapur sydd hefyd yn gwerthu trwyddedau pysgota, banc, groser gyda siop drwyddedig, cigydd a modurdy. I’r rhai ohonoch sydd yn hoff o gerdded mae o gwmpas 60 milltiroedd o lwybrau cyhoeddus yn yr ardal.
www.llysednowain.co.uk
Ffôn: 01766 770324
Ffacs: 01766 771714
Ebost: llysednowain@btconnect.com
GWESTY BRYN DEDWYDD, TRAWSFYNYDD
Ffôn : 01766 540 681 Email: g.rhun@virgin.net
Cewch groeso Cymraeg yng ngwesty Bryn Dedwydd., gydag ystafelloedd ’ en-suite’ yn mwynhau golygfeydd bendigedig o Gwm Prysor Valley a Mynyddoedd Arenig. Mae gwybodaeth am fwynderau lleol ar gael os bydd angen. Ein nôd yw sicrau eich bod yn mwynhau eich hunain tra yn aros yn ein gwesty cartrefol a gobeithio y gwnewch fwynhau ein brecwast Cymreig.
Ym Mryn Dedwydd cewch groeso Cymreig a Chymraeg, yn llawn dedwyddwch!!
GLASFRYN
Ffôn: (01766) 540873
Mae’r tŷ annedd amlwg yma wedi ei leoli yng nghanol pentref Trawsfynydd ac yn cynnig llety gwely a brecwast. Cewch ddewis amrywiol o frecwast. Mae maes parcio preifat yng nghefn yr adeilad.
OLD MILL FARMHOUSE FRONOLEU FARM, TRAWSFYNYDD
Ffôn/Ffacs +44 (0) 1766 540 397 E-bost: stay@oldmillfarmhouse.co.uk
Mae fferm Fron Oleu ynghanol Parc Cenedlaethol Eryri, yn dyddio yn ol i’r 1700. Mae’r hen stablau a’r ty gwair wedi eu hatgyweirio a’u trosi i gynnig saith ystafell gyfforddus. Mae’r waliau cerrig a’r trawstiau gwreiddiol yn cadw cymeriad yr hen adeiladau. Mwynhewch y golygfeydd hardd o Lyn Trawsfynydd a’r mynyddoedd wrth grwydro yn yr awyr iach ynghanol ein anifeiliad cyfeillgar. Yr ydym yn cynnig gwyliau gwerth chweil am bris rhesymol.
Gwely a Brecwast - £20 £25.00 Pryd Hwyr (4 cwrs + coffi a mints - £12.00)
1 TAN LLAN, TRAWSFYNYDD
Bwthyn o’r (17ed) ganrif wedi ei leoli mewn rhan ddistaw o bentref Trawsfynydd. Mae ei swyn wladaidd wedi apelio at bobl ar ei gwyliau am y pum mlynedd ar hugain ddiwethaf, gyda trawstiau agored ac awyrgylch gartrefol yn ei wneud yn encilfan groeshawus ar ol teithio Eryri. Yn yr ardd flaen ceir torf o wahanol flodau lliwgar gyda patio bychan yn y cefn.
Ceir teledu lliw yn y lolfa, cegin, ystafell ymolchi a chawod, dwy loft, (un ddwbl,un sengl a chrud). Lle i uchafswm o 3 person a chrud. Dau wresogydd nos. Mae’r trydan yn gynwysedig. Mae’n ddrwg gennym ond ni fedrwn ganiatau anifeiliad anwes.
Cysylltwch a ni rwan ar (01766 ) 540 317 am fargen o bris a neulltuad.
2 TAN LLAN, TRAWSFYNYDD

Bwthyn arall or (17ed) Ganrif yn gyflawn hefo to nenfforch, gyda trawstiau agored sydd yn ychwanegu at ei awyrgylch hen. Mae y bwthyn hwn hefyd mewn man distaw o bentref Trawsfynydd, yn ardderchog fel lleoliad i deithio o amgylch golygfeudd godigowgrwydd Eryri, fel y gwnaeth eraill dros y pum mlynedd ar hughain diwethaf. Yn yr ardd flaen ceir torf o wahanol flodau lliwgar gyda patio bychan yn y cefn. Mae ynddo lolfa a teledu lliw, cegin, ystafell ymolchi a chawod, 1 lloft (1 dwbl hefo crud). Lle i uchafswm o 2 berson a chrud. Y trydan yn gynnwysedig.. Mae’n ddrwg gennym ond ni fedrwn ganiatau anifeiliad anwes.
Cysylltwch a ni rwan ar (01766 ) 540 317 am fargen o bris a neulltuad.
TRAWSFYNYDD HOLIDAY VILLAGE

Yn y pentref gwyliau dyrchafedig a darluniadwy yma ceir cabanau math Norwy dadgysylltiegid yn goruchwylio y Rhinogydd gyda Cader Idris ir De ar Wyddfa ir Gogledd. Mae ar y safle siop gyda rhan drwyddedig, golchdy gyda peiriant golchi a sychu a teleffon gyhoeddus. Mae y cabanau yn perthyn i unigolion, gosodir rhai allan drwy gyfundrefn. O dro i dro daw cabanau ail law ar werth. (Mae rhestr i’w gael), Mae y pentref gwyliau hefyd yn cynnwys safle beiciau mynydd a gwesty Rhiw Goch. Gellir llogi beiciau mynydd i deuluoedd a grwpiau o unrhyw faint a hefyd wyliau pen wythnos drwy’r flwyddyn neu wyliau haf.
Archebwch yn awr drwy roi caniad ar (01766) 540 219 neu (01766) 540 555 neu e-bost: staff@logcabinswales.co.uk
TŶ CERRIG
(Alwyn a Falmai Ellis)
Ffôn : 01766 - 540814
Mae’r bwthyn traddodiadol yma sydd yn dyddio yn ôl i’r 1600 ac sydd wedi ei sefydlu tua 2 filltir o bentref Trawsfynydd yn mwynhau golygfeydd bendigedig a gyda gardd fach i’r blaen a nant a gardd fwy i’r cefn ynghyd a dodrefn a barbaciw. Lolfa gyda teledu, fideo, DVD a stôf goed. Cegin/ystafell fwyta gyda meicrodon, ffrij/rhewgell a ’dishwasher’. ’Utility’ gyda peiriant golchi a sychu. Ystafell Gemau. 2 loft dwbwl a lloft sengl (gŵlau bync), gwely plyg ar gael (os bydd angen). Gwres canolog olew. Lleoliad gwych ar gyfer cerdded, beicio a beicio mynydd. Dillad gwely ar gael. Lle ar gyfer 6/7 + cot.
Mae’n ddrwg gennym ond ni fedrwn ganiatau anifeiliad anwes.
CAE GWYN FARM AND NATURE RESERVE BRONABER
enquiries@caegwynfarm.co.uk www.caegwynfarm.co.uk

Fferm organig yw Cae Gwyn wedi ei leoli ger yr A470, rhyw 3 milltir o bentref Trawsfynydd ac o fewn pelleter beicio o Ganolfan Beicio Mynydd Coed y Brenin. Yr ydym yn cynnig gwely a brecwast a cyfleusterau gwersyllu mewn man hardd a naturiol ac ein hamcan yw darparu profiad gwyliau ecolegol gyfeillgar mewn amgylchedd heddychol. Mae ein brecwast yn cael ei goginio yn organig gan ddefnyddio chynnyrch lleol gymaint a bosibl, ac mae ein dwr yfed yn dod o ffynnon ein hunain. Gwahoddwn ein gwestai i gerdded yn rhydd o amgylch ein fferm sydd yn cynnwys 190 o erwau ac hefyd i bysgota yn ein afon (Afon Eden) lle yr ydym yn berchen hawliau preivat. Mae Cae Gwyn yn lle ardderchog i feiciwr mynydd, cerddwr, gwyliwr adar a pysgotwyr brwdfrydig sydd yn dymuno archwilio mynydd y Rhinogydd ar llynoedd ac afonydd amgylchoedd.
Ffôn : 01766 540245
Ffon symudol : 07818082040
LLWYN DERW TRAWSFYNYDD
Mae Llwyn Derw yn lê gwych i bysgotwyr, cerddwyr a beicwyr gan ei fod wedi`i leoli wrth ymyl y llyn gyda`r llwybr beicio lleol yn mynd heibio o fewn 200 llath. Cyfleus iawn i`r A470 a`r llu o atyniadau lleol fel:-
Canolfanau beicio Coed y Brenin a Rhiwgoch
Pentref Eidalaidd Portmeirion
Ceudyllau Llechi, Llechwedd, Blaenau Ffestiniog
Cestyll a thraethau niferus
Rheilffyrdd Ffestiniog, Eryri a`r Bala
Cynnigir llety cyfforddus gyda tair llofft, ( un gyda gwely dwbwl, un gyda dau wely sengl ac un gyda gwlau bync, lolfa fawr gyda teledu a dvd, lolfa fach gyda teledu a fideo, ystafell ymolchi, cegin gyda holl adnoddau fel popty trydan, popty meicrodon, peiriannau golchi llestri, golchi dillad, sychu dillad, rhewgell a.y.y.b. Gwres canolog olew. Gardd sylweddol a phreifat. Lle parcio ceir a chadw beiciau. Cyflennwir dillad gwlau a thyweli.
Dim Ysmygu. Anifail Anwes drwy drefniant yn unig.
Cynnigiwn delerau hyblyg – boed hunan ddarpar neu wely a brecwast.
Am fwy o fanylion cysylltwch gyda
Ann James ar 01766 540 787 neu 07709 048 498 neu e- bost annwjames@hotmail.co.uk
|